P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY, Gohebiaeth Deisebydd i'r Pwyllgor, 26.10.20

Mae’r angen am adnoddau ychwanegol i ysgolion yn bodoli yn barhaol bron, mae o hyd angen mwy o adnoddau er mwyn gwneud y gorau i ddisgyblion Cymru. Mae cyllidebau ysgolion wedi cael eu torri wrth i gyllidebau Cymru ac yr Awdurdodau Lleol cael eu torri mewn termau real ers blynyddoedd maith. Tydi hyn ddim yn sefyllfa da, ac mae angen mwy o gyllideb i wella’r sefyllfa i bob ysgol a disgybl. Ond nid yw disgyblion niwrotypical yn cael eu effeithio gan ddiffyg adnoddau gymaint â disgyblion niwro a-typical, a dyma lle mae angen unioni’r cae chwarae fel petai, a chynnig mwy o gefnogaeth i’r digyblion gydau anghenion dysgu ychwanegol (ADY) er mwyn cynnig cyfleoedd cyfartal i bawb.

 

Mae’r amcanion yn glir yn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol “i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd” ac felly mae’n ddyletswydd cyfriethiol ar yr Awdurdodau Lleol i ‘atal problemau parhaus megis...anghydraddoldebau iechyd’ sydd i mi yn cynnwys addysg disgyblion ADY. Hefyd mae’r ddeddf yn cynnwys bod "rhoi addysg a’r cyfle i bobl ddatblygu’r set addas o sgiliau ar gyfer y dyfodol,” felly sut mae disgyblion ADY yn fod i wneud hyn os nad yw’r adnoddau gan ysgolion i helpu iddyn nhw ddysgu’r sgiliau mwyaf sylfaenol fel darllen, ysgrifennu a rhifedd, heb sôn am y sgiliau mwy cymleth mae disgwyl i oedolion meddu arnynt er mwyn llwyddo yn y byd sydd ohoni?

 

Heb fwy o arian wedi ei glustnodi yn benodol ar gyfer cefnogi disgyblion ADY ar gyfer ysgolion Cymru, bydd y disgyblion hyn yn methu allan ar gyfleodd i fod yn rhan o gymdeithas a byw bywyd yn llawn, ac bydd Cymru yn gwahaniaethu yn eu herbyn.

 

Ydan ni eisiau byw mewn gwlad sydd yn cefnogi pawb o bob cefndir a gallu, neu ydan ni ddim ond eisiau cefnogi y goreuon?

Dwi’n meddwl ein bod yn wlad sydd eisiau cynnwys pawb a chynnig y gefnogaeth mae pawb eu hangen i lwyddo ac i ffynnu, ac mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi ei greu i sicrhau bod hyna’n digwydd. Cefnogwch y ddeddf, cefnogwch bobol Cymru i ffynnu a llwyddo.

 

Hoffwn weld trafodaeth llawn yn y Senedd i drafod cyllid ysgolion a’r camau mae Llywodraeth Cymru am eu cymeryd i sicrhau nad yw unrhyw ddisgybl yn cael eu gadael ar ôl oherwydd bod ganddyn nhw anghenion dysgu ychwanegol.

 

Edrychaf ymlaen i glywed mwy am y drafodaeth. Dwi’n barod i drafod ymhellach wrth gwrs.

 

Cofion